Amdanom Ni

Mae Hosbis Dewi Sant yn elusen gofrestredig sy’n darparu gofal diwedd oes, yn rhad ac am ddim, i bobl Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy. Gydag ymroddiad, brwdfrydedd, haelioni a chefnogaeth barhaus cymunedau Gogledd Orllewin Cymru, mae Dewi Sant yn parhau i wneud cyfraniad allweddol i wasanaeth Hosbis/Gofal Lliniarol Gogledd Cymru.  

Drwy ofal, cefnogaeth, empathi ac ymddiriedaeth, bydd Dewi Sant yn hafan i bawb.

Gwasanaethau

Yn Hosbis Dewi Sant rydym yn gofalu am oedolion sydd ag afiechyd terfynol/yn cyfyngu ar fywyd ac yn cynorthwyo eu hanwyliaid.  Mae gofal Hosbis yn darparu gofal lliniarol – neu ofal cysur – gan gynnwys cefnogaeth gorfforol, emosiynol neu ysbrydol. Mae rheoli symptomau a lleddfu poen yn rhan bwysig o’r therapi y mae’r Hosbis yn ei gynnig. Mae tîm o nyrsys tra chymwysedig, staff meddygol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn gofalu am y cleifion a’u teuluoedd. Os cawsoch chi ddiagnosis o afiechyd sy’n cyfyngu ar fywyd neu os gwyddoch am rywun sydd  wedi derbyn diagnosis o’r fath, edrychwch ar ein hadran Gwasanaethau Gofal.

Sut i’n helpu ni

Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth y gymuned a wasanaethwn. Ar hyn o bryd mae’n costio £1.6 miliwn i gynnal y gwasanaethau clinigol yn yr Hosbis bob blwyddyn a chodir dros 75 y cant o hyn drwy godi arian yn y gymuned. Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi ddangos eich cefnogaeth, a’n helpu ni i roi profiad dymunol i’n cleifion, eu gofalwyr a’u perthnasau.

** Cliciwch yma i lawrlwytho taflenni’r Hosbis  **

Comments are closed.