Datganiad Cenhadaeth

“Drwy ofal, cefnogaeth, empathi ac ymddiriedaeth, bydd Dewi Sant yn hafan i bawb.”

Prif nod Hosbis Dewi Sant yw darparu gofal i bobl sy’n dioddef o salwch cynyddol sy’n fygythiad i fywyd. Darperir y gofal hwn mewn awyrgylch gartrefol, ymlaciol a’r bwriad yw diwallu anghenion corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol y claf.

Estynnir y cynnig o gymorth i ofalwyr ac anwyliaid drwy wrando ar eu pryderon a’u gofidiau a thrwy ddarparu gwasanaeth cynghori.

Bydd yr Hosbis yn cynnwys pob gofalwr addas a gweithiwr iechyd proffesiynol perthynol i ofalu am y claf a thrwy hynny sicrhau lleddfu neu liniaru symptomau a gwella ansawdd bywyd cleifion a gofalwyr.  

Tra’n aros yn yr Hosbis, trinnir cleifion â pharch mewn perthynas â’u preifatrwydd, eu hurddas a’u personoliaethau unigol. Cynhelir cyfrinachedd bob amser.

Comments are closed.