Oeddech chi’d gwybod?
- Cynigir yr holl wasanaethau yn Hosbis Dewi Sant yn gwbl rad ac am ddim i’r claf
- Mae Hosbis Dewi Sant yn gofalu am gleifion sydd a salwch diwedd oes, gan gynnwys canser, cyfnod olaf clefyd y galon a’r clefyd niwronau motor
- Ar gyfartaledd bydd ein wardiau Gofal Dydd a Chleifion Preswyl yn derbyn 200 o bobl y flwyddyn
- Ar hyn o bryd mae’n costio £1.6 miliwn y flwyddyn i gynnal y gawsanaethau clinigol yn Dewi Sant ac mae dros 75 y cant o hyn yn cael ei godi drwy ymdrechion codi arian yn y gymuned.
Pa ardaloedd y mae Hosbis Dewi Sant yn eu gwasanaethu?
Mae ein hardal yn cynnwys pob rhan o Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy, hyd at, a chan gynnwys, Bae Colwyn.
Beth yw Gofal Lliniarol?
Gofal cyflawn o’r claf yw hyn sy’n cynnwys gofal emosiynol, ysbrydol a chorfforal. Cynllunir esmwythad er mwyn lleddfu symptomau pan nad oes modd gwella afiechyd.
A yw’n debyg i gartref nyrsio?
Nid cartref nyrsio yw Dewi Sant ac ni allwn ddarparu gofal tymor hir. Canolfan Gofal Lliniarol Arbenigol ydym ni sy’n darparu gwasanaeth rheoli symptomau, gofal seibiant, a gofal am y rhai hynny y mae eu hoes yn dod i ben.
Sut alla’i godi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant?
Mae gennym Dîm Codi Arian yn yr Hosbis a fydd yn eich helpu i gynllunio eich digwyddiad eich hun, neu pam nad ymunwch chi ag un o’r digwyddiadau a drefnir gydol y flwyddyn?
Beth os fydd gen i sylw neu gwyn i’w wneud am fy ngofal?
Gobaith Hosbis Dewi Sant yw creu awyrgylch lle nad oes gan bobl ofn mynegi eu pryderon a chwyno os oes angen. Am bryderon yn ymwneud a materion clinigol neu ofal cleifion, ymwelwch a Mrs Nia Rosser-Hughes, Rheolwraig Gwasanaethau Clinigol, neu ysgriffenwhc ati. Am bryderon yn ymwneud a Rheolaeth neu Weinyddiaeth, ysgrifennwch at Brif Weithredwr yr Hosbis, Mr Alun Davies, Hosbis Dewi Sant, Ffordd yr Abaty, LLandudno, LL30 2EN. Os nad ysych chi’n fodlon ar ol dilyn y camau uchod, yna ysgrifennwch at Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a fydd yn sicrhau bod Pwllgor Cwynion yr Hosbis yn ymchwilio i’ch pryder/cwyn. Ein polisi yw ymchwilio’n drylwyr i bob cwyn.
Cymraeg
English 

