Rheolwr Hosbis Dewi Sant yw’r Prif Weithredwr, gyda Bwrdd o Ymddiriedolwyr yn llywodraethu. Ein Prif Weithredwr presennol yw Alun Davies a Chadeirydd yr Ymddiriedolwyr yw Gladys Harrison. Mae’r tîm hefyd yn cynnwys staff gweinyddol, staff codi arian a chyfathrebu, staff arlwyo, glanhawyr ac, wrth gwrs, ein gwirfoddolwyr diflino.
Yn glinigol, mae gennym dîm llawn, profiadol, amlddisgyblaethol. Mae nyrsys hyfforddedig yn gofalu am ein cleifion 24 awr y dydd. Arweinydd y tîm yw’r Rheolwr Gwasanaethau Clinigol ac ymhlith y tîm mae’r Rheolwr Cleifion Preswyl, Prif Weinyddes yr Uned Ddydd, Dirprwy Brif Weinyddesau, Nyrsys Staff a Gweithwyr Cynnal Gofal Iechyd profiadol sydd hefyd yn cynorthwyo’r nyrsys mewn modd medrus.
Ymhlith y bobl eraill y gallwch ddod ar eu traws mae ein Ffisiotherapydd, Therapydd Galwedigaethol, Gweithiwr Cymdeithasol, Clerc y Ward, Caplaniaid a Fferyllydd
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon siaradwch ag aelod o dîm yr Hosbis os gwelwch yn dda.
Cymraeg
English 

