Heriau

Heriau

Teithio ym Mheriw, beicio yng Nghiwba, neu unrhyw un o’n teithiau tramor cyffrous – gallwch ddewis eich Her Elusen eich hun a chodi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant.

Taith Feicio o Lundain i Baris

Mae’r daith feicio o Lundain i Baris yn eich tywys drwy bentrefi prydferth Lloegr i mewn i gefn gwlad anhygoel Ffrainc.  Byddwch yn pasio tirnodau hanesyddol a meysydd y gad enwog o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf hyd nes y gwnewch chi gyrraedd Paris, un o’r mannau mwyaf hudolus ar wyneb daear yn ddi-os. Bydd y teimlad o gyflawniad a brofwch yn rhywbeth y gwnewch chi ei drysori am byth. Mae profiad bythgofiadwy o’ch blaen.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth

Taith Kilimanjaro

Ymunwch â ni wrth inni deithio tuag at y copaon gwyn dan eira a gweld harddwch naturiol tirwedd Tanzania. Byddwch yn teithio drwy gyfuniad o diroedd gwahanol, o jyngl i graterau folcanig, cyn cyrraedd man uchaf Mynydd Kilimanjaro, Uhuru Peak.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth

Taith Periw

Profwch amrywiaeth o olygfeydd wrth inni deithio ym Mheriw drwy bentrefi traddodiadol yr Andes ac ar hyd llwybrau mynyddig anghysbell ac uchel cyn inni ymweld â Machu Picchu, un o ddarganfyddiadau archeolegol pwysicaf y byd. I’r rhai hynny ohonoch chi sy’n hoffi tirwedd, yn gwirioni ar hanes ac sydd ag antur yn eich gwaed does dim angen i chi edrych ymhellach; dewch i deithio gyda ni!

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth

Taith Tsieina

Mae’n wlad hardd yn llawn traddodiad, hanes a mytholeg. I’r rhai hynny sy’n gwirioni ar ddiwylliant ac sydd ag antur yn eu gwaed bydd y daith yn Tsieina’n gadael ei hôl am byth ar bawb sy’n cymryd rhan. Ymunwch â ni ar y daith grwydro elusennol unwaith mewn oes wrth inni grwydro’r Wal Fawr, ymweld â Beijing a chael y cyfle i gymryd rhan mewn sleid sip anferth 400 troedfedd hyd yn oed!!

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth

Taith y Sahara

Bydd teithio drwy Anialwch y Sahara yn rhoi profiad anhygoel i chi, ac un na fyddwch chi’n ei anghofio byth. I’r rhai hynny ohonoch chi sy’n awyddus i gymryd rhan mewn her crwydro elusennol unwaith mewn oes ar gyfer elusen sy’n agos at eich calon, yna dyma’r daith i chi.  

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth

Taith Costa Rica

Yn gartref i bump y cant o fioamrywiaeth y blaned, gyda phopeth o draethau trofannol â choed palmwydd i losgfynyddoedd yn mygu, fforestydd niwl a mangrof, bydd ein taith elusennol yng Nghosta Rica yn mynd â ni drwy blanhigfeydd coffi a fforestydd derw i ganol y fforest law drofannol drwchus. O gael eich serenadu gan fwncïod yn udo ac adar egsotig, byddwch yn profi popeth sydd gan Costa Rica i’w gynnig. Daw’r daith i ben ar draeth trofannol hardd. 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth 

Boed yn Adduned Flwyddyn Newydd, yn uchelgais oes neu’n rhywbeth i’w gyflawni yn ystod blwyddyn allan neu seibiant o’r gwaith, mae cymaint o gyfleoedd cyffrous i’w cael. Cyflawnwch rywbeth gwych tra’n cyfrannu arian hanfodol i elusen leol ar yr un pryd.

Comments are closed.