Mae Hosbis Dewi Sant yn gofalu am dros 400 o deuluoedd lleol bob blwyddyn. Mae dros 73 ceiniog o bob £1 a wariwn ni’n mynd yn uniongyrchol i ofal cleifion, ac ar hyn o bryd mae ein gwasanaethau clinigol yn costio dros £4,500 y dydd neu £187.50 yr awr. Mae dros 80 aelod o staff taledig ac mae gennym gefnogaeth dros 250 o wirfoddolwyr gwych sy’n gwneud gwaith gwerth chweil.
Beth allai eich rhodd ei brynu
Er bod rhaid inni brynu cyfarpar newydd (neu ei gyfnewid) o bryd i’w gilydd, ein her fwyaf yw delio â chostau cynnal o ddydd i ddydd ar gyfer gofalu am ein cleifion. Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y gallai eich rhodd ei brynu:
£10
Prynu olewau ar gyfer sesiwn aromatherapi neu ddeunyddiau ar gyfer y sesiynau celf a chrefft yn ein Huned Ddydd
£25
Gofal am fore neu brynhawn gan weithiwr cynnal
£50
Gwisg nyrs
£150
Byddai’n bwydo ein holl gleifion am ddiwrnod
£187.50
Byddai hyn yn ariannu 1 awr o amser clinigol ar gyfer ein holl gleifion
£500
Byddai hyn yn darparu hyfforddiant parhaus ar gyfer 5 nyrs
£1200
Gallai hyn brynu matres arbenigol ar gyfer gwely claf preswyl
Cymraeg
English 
