Gwasanaethau Gofal

Diolch i chi am ymweld â’n tudalen gwasanaethau gofal.  Yn Hosbis Dewi Sant, ein nod yw gweithio mewn partneriaeth â’r claf er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn derbyn ansawdd bywyd da, a marwolaeth dda yn y pen draw. Rydym yn ymdrechu i ofalu am y claf yn emosiynol, yn seicolegol, yn gorfforol ac yn ysbrydol tra’n cynorthwyo’r teulu/gofalwr hefyd.  Mae Dewi Sant yn elwa o fod â thîm llawn, cymwysedig o Nyrsys a Meddygon sydd â phrofiad helaeth o ofal diwedd oes. Mae’r holl ofal yr ydym yn ei gynnig ar gael yn gwbl rhad ac am ddim i gleifion, diolch i haelioni ac ewyllys da ein cefnogwyr.  Edrychwch ar ein gwahanol adrannau, gan gynnwys yr Unedau Cleifion Preswyl a Gofal Dydd. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, mae croeso i chi ein ffonio ar (01492) 879058 neu galwch heibio’r Hosbis ar Ffordd yr Abaty, Llandudno.

Care Services Download

Comments are closed.