I Weithwyr Iechyd Proffesiynol

Mae Hosbis Dewi Sant yn cydweithio’n agos â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ar draws Gogledd Cymru.

Cyfeirir cleifion i Hosbis Dewi Sant drwy eu meddyg teulu neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd arall, drwy drafod eu hanghenion a llenwi cyfeireb.

Os am ragor o wybodaeth am ein meini prawf o ran derbyn, neu i ddysgu mwy am sut y gall Hosbis Dewi Sant helpu, ffoniwch (01492) 879058.

 

Mae gan Dewi Sant nifer o daflenni all fod o fudd i chi neu i’ch claf. I wneud cais am lyfryn gwybodaeth neu boster ar gyfer eich swyddfa/meddygfa cysylltwch â’n Swyddog Cyfathrebu, Rachel Owen ar (01492) 879058 est. 263 neu e-bostiwch rachel.o@stdavidshospice.org.uk.

Comments are closed.