Uned Ddydd

Mae ein Huned Ddydd yn derbyn 10 o bobl y dydd rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener. Cynigir apwyntiadau unigol a chynghori mewn profedigaeth ar ddyddiau Llun.

Neges gan Y Brif Weinyddes Gwen Thomas: “Yn naturiol mae llawer o bobl yn bryderus pan drafodir gwasanaethau Hosbis am y tro cyntaf. Ein nod yw gwneud i’r rhai sy’n dod i’r Uned Gofal Dydd deimlo wedi ymlacio a’u bod yn derbyn cefnogaeth. Mae ein cleifion yn mynychu’r Uned Ddydd am wahanol resymau – gofal meddygol a nyrsio arbenigol gan dîm proffesiynol llawn, y cyfle i gyfarfod â rhai eraill mewn sefyllfaoedd tebyg neu er mwyn rhoi rhywfaint o seibiant i’w gofalwr am ddiwrnod yr wythnos. Mae pob un o’n cleifion Uned Ddydd yn gallu byw gartref, ond maen nhw’n cael budd o dreulio diwrnod mewn man lle gallant fanteisio ar holl wasanaethau’r Hosbis – cefnogaeth gorfforol, emosiynol, ysbrydol a seicolegol. Mae ein Huned Gofal Dydd yn lleoliad diogel a chefnogol lle darparwn ofal arbenigol i unigolion a grwpiau yn rhad ac am ddim, i oedolion sydd ag afiechyd terfynol. Yn fwy na dim, mae’r Uned Ddydd yn fan cefnogol, wedi’i deilwrio i anghenion yr unigolion. Mae’n bwysig eich bod yn rhan o hyn a’n bod yn ymgynghori â chi am bob agwedd ar eich gofal, bob cam o’r ffordd. Gobeithiwn fod ein cleifion yn dychwelyd adref yn teimlo eu bod yn werthfawr, wedi ymlacio, bod rhywun yn gofalu amdanynt a’u bod yn rheoli eu salwch.”

 

Comments are closed.