O’n gwirfoddolwyr a chefnogwyr gwych, i’n staff clinigol a’n timau cymorth ymroddedig. Mae yna lawer o bobl sy’n helpu gwneud yr Hosbis yn lle arbennig.
BWRDD YR YMDDIRIEDOLWYR
Llywodraethir Hosbis Dewi Sant gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr, sydd oll ar sail wirfoddol.
MR LYNDON MILES (CADEIRYDD)
Ymunodd Lyndon â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2015 ac mae’n aelod o’r Pwyllgor Llywodraethiant Clinigol. Mae’n Feddyg Teulu sydd wedi hanner-ymddeol, ar ôl gweithio ym Mangor am 20 mlynedd. Ef oedd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd, is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac fe roedd yn gyn-gadeirydd i Gydffederasiwn GIG Cymru.
MANDY HUGHES (Is-Gadeirydd)
Ymunodd Mandy â’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn Hosbis Dewi Sant yn 2012 a cymerodd rôl yr Is-Gadeirydd ym mis Mehefin 2015. Mae hi hefyd yn aelod gweithredol o’r pwyllgor llywodraethiant clinigol.
Roedd ei phrosiect diwethaf gyda’r Gymdeithas Meddyginiaeth Lliniarol a’r Sefydliad Ymchwil Canser Cenedlaethol yn helpu i godi ymwybyddiaeth o, ac i hybu ymchwil i mewn i, agweddau amrywiol o Ofal Diwedd Oes. Cyn hyn fe weithiodd yn y diwydiant fferyllol ac i’r GIG am flynyddoedd lawer yn sefydlu a goruchwylio treialon clinigol ar gyfer mewn datblygu cyffuriau canser ac yn 2010 a sefydlodd rwydwaith o hosbisau yngh Nghogledd-Orllewin Lloegr sy’n gwneud ymchwil i mewn i ofal lliniarol.
JUDITH LESLIE
Mae Judith wedi gweithio fel cyfrifydd i GIG ac i amrywiol fusnesau yn y sector preifat, o fewn Gogledd Cymru; yn ddiweddar fe ymddeolodd fel bwrsar Coleg Dewi Sant ( Ysgol Annibynnol ac Ymddiriedolaeth Elusennol).
ANTHONY H NEVILLE
Mae Anthony yn fferyllydd sydd wedi ymddeol (wedi ei leoli yn Llandudno am 42 o flynyddoedd). Mae wedi bod yn Ymddiriedolwr i’r Hosbis am dros 10 mlynedd. Mae hefyd yn gwasanaethu ar yr is-bwyllgor Llywodraethiant Clinigol.
DR CHRISTOPHER J DAVIES
Mae Christopher wedi bod yn Ymddiriedolwr i’r Hosbis ers 2006 ac fe gadeiriodd y Pwyllgor Llywodraethiant Clinigol ers 2009.
Mae o wedi ymddeol o fod yn lawfeddyg ymgynghorol oedd yn arbenigo mewn cyflyrau’r fron a chyflyrau endocrinaidd (thyroid a pharathyroid yn enwedig). Bu’n gweithio am 20 mlynedd yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae hefyd wedi gweithio i Raglen Sgrinio Canser y Fron Cenedlaethol y GIG (Bron Brawf Cymru) yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno.
VICKY MACDONALD
Ymunodd Vicky â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2011 ac mae hi’n aelod o’r Grŵp Cynhyrchu Incwm. Vicky sy’n llenwi’r rôl sydd gan y Bwrdd o gyswlltu rhwng y Gwirfoddolwyr a’r Ymddiriedolwyr.
Hi oedd Curadur y Royal Cambrian Academy yng Nghonwy ac, yn ogystal, fe redodd ei horiel gelf ei hun. Buodd yn gynghorydd i Gyngor Tref Conwy am bron i 20 mlynedd a cafoedd rôl Maer Conwy ddwywaith.
ROY DRINKWATER
Ymunodd Roy â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2012.
Mae’n Syrfëwr Adeiladau Siartredig sydd wedi treulio dros 35 o flynyddedd yn gweithio i’r GIG. Lleolwyd ei swydd diweddaraf yng Ngogledd Cymru a’i rôl oedd i reoli’r datblygiad o Brif Ganolfannau Gofal Iechyd newydd. Ymddeolodd Roy o’r GIG ym mis Awst 2012 ac mae bellach yn gwneud gwaith ymgynghoriaeth.
RICHARD THOMAS
Mae Richard yn Syrfëwr Siartredig ac yn Asiant Tir a ymunodd â’r Bwrdd yn 2014 ac mae’n aelod o Dîm Cynhyrchu Incwm yr Hosbis. Bu’n Ysgrifennydd Cwmni i Mostyn Estates Ltd ers 1978.
UWCH REOLWYR
Trystan Pritchard, BA, MSC, PgDip – Prif Weithredwr
Cyn ei swydd bresennol, treuliodd Trystan amser yn datblygu rhaglen partneriaeth strategol rhwng y sector cyhoeddus a’r drydedd sector yn y ddwy sir, gan oruchwylio meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, plant a phobl ifanc a diogelwch cymunedol.
Cyn hynny fe dreuliodd nifer o flynyddoedd fel Pennaeth Cyfathrebu i Fwrdd Iechyd mawr, lle’r oedd yn gyfrifol am gyfathrebiadau strategol, am ymgysylltu â rhanddeiliaid ac am wasanaethau ar-lein.
Mae diddordebau proffesiynol Trystan yn cynnwys cydweithio, adeiladu tîm ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Fel newyddiadurwr cymwys, mae Trystan hefyd yn Gadeirydd pwyllgor Canolfan Cynghori Cymru. Mae ei ddiddordebau personol yn cynnwys rygbi Cymreig, ffitrwydd a threulio’i amser gyda’i deulu ifanc.
Andrew Humphreys – Rheolwr Cyllid a Chodi Arian
Ymunodd Andrew Humphreys â’r Hosbis ym mis Rhagfyr 2000 cyn i’r Uned Cleifion Mewnol agor ym mis Ebrill 2001.
Ar ôl graddio mewn Astudiaethau Busnes a chychwyn ei yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd yn Lewes Dwyrain Sussex, gweithiodd hefyd ym Mrighton tan 1996 pan symudodd i Ogledd Cymru a gweithio i Awdurdod Iechyd Lerpwl.
Mae’r hosbis wedi tyfu’n sylweddol ers 2001 ac mae rôl Andrew wedi newid hefyd. Yn ogystal â phenio’r Adran Cyllid ym mis Mehefin 2014, roddwyd iddo’r dasg o oruchwylio Tîm Codi Arian yr Hosbis.
Janet Magill – Gweinyddwr Hosbis
Mae gan Janet dros 36 blynedd o brofiad o weithio fel uwch reolwr. Cyn ymuno â Hosbis Dewi Sant, gweithiodd Janet yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno fel Rheolwr Gweinyddiaeth a Gwasanaethau Cefnogol.
Penodwyd Janet fel Gweinyddwr Hosbis ym mis Mai 1996, i helpu’r Prif Weithredwr i godi’r arian angenrheidiol i adeiladu’r Hosbis oedolion cyntaf yng Ngogledd Orllewin Cymru a adeiladwyd yn bwrpasol, a agorwyd gan EUB Tywysog Cymru ym mis Mai 1999. Unwaith oedd yr Hosbis yn weithredol, cynyddodd ei chyfrifoldebau at reoli’r gweinyddiaeth, staff cymorth, cydlynwyr siop, gwirfoddolwyr a chyfleusterau drwy’r gyfundrefn.
Yn ystod ei hamser hamdden, mae Janet yn gwirfoddoli i orsaf radio cymunedol leol, yn mwynhau cerddoriaeth Motown ac yn cerdded ei brithgi Hysgi/Bugail yn helpu’n aml gyda digwyddiadau’r Hosbis.
ARLYWYDDION A NODDWYR
Llywydd Mygedol:
Arglwydd Mostyn
Noddwyr:
Dr Oliver P Galpin FRCP
Arglwyddes Aberconwy
Christopher Mclaren Anrhydeddus
Russell Grant
Elinor Bennet
Yr Athro David Crystal
Hilary Crystal