Mae cost blynyddol cynnal gwasanaethau Hosbis Dewi Sant dros £5 miliwn.
Derbynnir llai na 9% o’n cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd Lleol.
INCWM
Ionawr – Rhagfyr 2019
Incwm- Loteri Hosbis £615,123
- Gwerthiannau Siop £1,526,042
- Cymynroddau £983,559
- Codi arian £540,688
- Eraill gan gynnwys Caffi Dewi £601,965
- Rhoddau Er Côf £153,353
- Cyfraniadau £196,781
- GIG/Llywodraeth y Cynulliad £499,748
- Grantiau £152,594
- Loteri Hosbis £615,123
- Gwerthiannau Siop £1,526,042
- Cymynroddau £983,559
- Codi arian £540,688
- Eraill gan gynnwys Caffi Dewi £601,965
- Rhoddau Er Côf £153,353
- Cyfraniadau £196,781
- GIG/Llywodraeth y Cynulliad £499,748
- Grantiau £152,594
- Rhaid i Hosbis Dewi Sant godi dros £3 miliwn bob blwyddyn i ddarparu ei gwasanaethau – mae hynny’n fwy nag £8000 y diwrnod neu £351 yr awr.
- Rydym yn derbyn £491,918 oddi wrth y GIG, ond hyd yn oed wedyn mae’n rhaid i ni godi o leiaf £2.5 miliwn bob blwyddyn gyda chymorth ein cymuned leol.
- Cafodd cyfanswm incwm yr Hosbis yn 2015 ei ariannu gan gyfraniad o 14% gan y GIG ac 86% drwy godi arian yn y gymuned.
- Am bob £1 a gyfrannodd y GIG, rhoddodd y gymuned leol £7.
- Mae cymunedau a busnesau lleol yn hanfodol fel ffynonellau cefnogi, gyda 84% o incwm yn dod o roddion, cymynroddion, digwyddiadau codi arian, manwerthu a loteri
Bob blwyddyn, mae Hosbis Dewi Sant yn darparu gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol i dros 1000 o bobl a’u teuluoedd yn siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn. Ni fyddem yn gallu gwneud hyn heb gefnogaeth anhygoel a haelioni pobl leol.
Byddai:-
£5 yn talu am brydau claf am ddiwrnod
£5 yn talu am orchudd meddygol – eitem hanfodol ar gyfer gofal claf
£10 yn talu am ddeunyddiau celf a chrefft i’n cleifion Gofal Dydd eu mwynhau
£10 yn helpu talu am ‘focs atgofion’, i gleifion greu anrheg i’w hanwyliaid
£25 yn darparu sesiwn arbenigol cefnogi mewn profedigaeth
£25 yn talu am sesiwn therapi cyflenwol ar gyfer claf neu ofalwr, a allai gynnwys tyluniad aromatherapi ac adweitheg.
£30 yn talu am ofal bore neu brynhawn gan un o’n gweithwyr cefnogi
£50 yn talu am amrywiaeth o olewon aromatherapi i helpu cleifion ymlacio yn yr Hosbis
£75 yn talu am gynnal un matres lliniaru gwasgedd am un flwyddyn
£270 yn talu am gynnal un gyrrwr chwistrell am un flwyddyn
£390 yn talu am fis o gyflenwad ocsigen
£1000 yn talu am un crynhöwr ocsigen
£1200 yn helpu i brynu matres arbenigol ar gyfer gwely Claf Mewnol
£1200 yn talu am yrrwr chwistrell i gleifion ei ddefnyddio pan fo’i angen fwyaf
£8425 yn talu am gostau cynnal gwasanaethau’r Hosbis am ddiwrnod