
Am y tair blynedd ddiwethaf, mae Hosbis Dewi Sant wedi bod ag uchelgais i agor mwy o welyau yng Ngogledd-Oerllewin Cymru, gan bontio’r bwlch mewn gwasanaethau gofal diwedd oes cleifion mewnol ar draws Môn, Gwynedd a Chonwy.
Mae’r uned cleifion mewnol pedwar gwely, sy’n defnyddio ward segur yn yr ysbyty cymuned, bellach yn darparu gofal seibiant a gofal diwedd oes i bobl leol Ynys Môn sy’n byw gyda gwaeledd sy’n byrhau bywyd, yn ogystal â darparu cefnogaeth i lawer o’u hanwyliaid.
Dan arweiniad y Metron, Glenys Sullivan, mae’r tîm gofal lliniarol arbenigol yn cynnwys nyrsys, tîm meddygol a gweithwyr cymorth gofal iechyd Hosbis Dewi Sant, a fydd yn darparu gofal 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae pob ystafell un gwely yn fodern ac iddynt gyfarpar llawn ar gyfer cysur, urddas a phreifatrwydd. Mae rhai ystafelloedd yn cynnig cyfleusterau en-suite a gwelyau soffa, yn darparu ar gyfer cleifion a all fod ag angen cael rhywun yn aros gyda nhw yn ystod y nos, ac yn ogystal mae yna ystafell deulu ar gyfer amseroedd tawel.

Gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae Hosbis Môn yn annibynnol ar y GIG, a bydd y tîm clinigol yn cael ei gyllido gan Hosbis Dewi Sant, trwy roddion elusennol a chefnogaeth y gymuned leol.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi darparu’r lle ar gyfer yr hosbis yn ogystal â’r gwasanaethau cymorth, yn cynnwys arlwyo, cynnal a chadw, a TG. Bydd yna berthynas weithio agos hefyd rhwng tîm yr hosbis a gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd lleol a meddygon teulu.
Elusen Gofrestedig Rhif: 1038543
Mae pob ystafell wely’n edrych dros dirwedd arfordirol llonyddol Penrhos neu erddi’r cowrt a phan fydd y tywydd yn caniatáu, mae’r drysau’n agor i ganiatáu i’r cleifion a’u teuluoedd dreulio amser ar y patio, gan fwynhau’r awyr iach a’r golygfeydd hardd.
Lleoliad
Hosbis Dewi Sant, Uned Loeren Sbyty Penrhos Stanley, Caergybi
Ynys Môn LL65 2QA
Ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol – SYSTEM GYFEIRIO
Mae Hosbis Dewi Sant yn gweithio’n agos gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Gogledd Cymru.
Caiff cleifion eu cyfeiro i Hosbis Dewi Sant drwy eu Meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, drwy drafod eu hanghenion a llenwi ffurflen cyfeirio.
Ffurflenni cyweirio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol – lawr lwythwch yma:
Yma ichi yn eich cymuned leol
Y Diweddaraf am Hosbis Ynys Môn
Aeth chwe mis heibio ers i Hosbis Dewi Sant, gyda balchder, agor ein cyfleuster Hosbis cyntaf erioed ar Ynys Môn. Wedi’i hagor ar 1af Mawrth, mae’r uned cleifion mewnol pedwar gwely yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi yn gofalu’n llwyddiannus am bobl leol Ynys Môn erbyn hyn.
Mae’r uned Hosbis wirfoddol a gynorthwyir yn darparu gofal seibiant a gofal diwedd oes i’r rheini sy’n byw gyda gwaeledd sy’n byrhau bywyd, yn ogystal â chefnogaeth i lawer o’u hanwyliaid.
Ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, mae’r tîm gofal lliniarol arbenigol yn darparu gofal arbenigol, holistaidd, lliniarol a gwasanaethau cysylltiedig i oedolion yn rhad ac am ddim.
Sister Sue Griffiths gyda rhodd gan yr artist Josie Russell

Meddai Sue Griffiths, Sister Hosbis Ynys Môn:
“Mae hi’n fraint bod yn gweithio i’r Hosbis ac yn rhedeg yr is-uned newydd gyda Metron wrth y llyw. Mae’r gymuned leol a’r ysbyty wedi bod yn wirioneddol gefnogol ac yn groesawus iawn.
Rydym wedi cael 35 o atgyfeiriadau, a 28 o gleifion mewnol. Rydym yn eithriadol falch o’n staff; maen nhw’n dîm hyfryd ac yn gefnogol iawn tuag at ei gilydd.
Heb amheuaeth mae’r cleifion wrth eu bodd â’r ystafelloedd, a’r golygfeydd. Mae hi wedi bod mor braf yr haf yma iddyn nhw gael y drysau ar agor. Mae edrych allan ar draws yr arfordir yn ogoneddus, mae’r glaswellt yn hir ac yn debyg i gae o wenith yn chwythu yn yr awel. Gellwch ei glywed a’i ogleuo ac mae’r cleifion yn ei wir fwynhau.”


Codiad haul dros Warchodfa Penrhos.
