Mae codi arian yn gwneud cyfraniad hollbwysig i gostau rhedeg Hosbis Dewi Sant.
Mae’n costio dros £5 miliwn i ddarparu ein gwasanaethau clinigol yn Hosbis Dewi Sant. Mae dros 90% o’n hincwm yn cael ei gynhyrchu drwy godi arian yn y gymuned. Diolch

Codwyr Arian y Gymuned
Digwyddiadau 20/21
Mae Adran Codi Arian Hosbis Dewi Sant yn gyfrifol am drefnu digwyddiadau, ac am gydgysylltu digwyddiadau a gychwynnwyd gan y gymuned. Os dymunwch godi arian ar gyfer yr Hosbis, holi am gymryd rhan mewn digwyddiad a drefnir gan yr Hosbis, neu wneud ymholiad cyffredinol ynglŷn â chodi arian i’r Hosbis, ffoniwch nhw yn uniongyrchol ar 01492 879058 ex 206 neu e-bostiwch
Codi Arian Ar-Lein
Ydych chi’n codi nawdd ar gyfer Hosbis Dewi Sant? Cewch wefan codi arian yn rhad ac am ddim a gallwch gasglu’ch nawdd ar-lein:
Cyfarfod y TÎm Codi Arian

Nwyddau Geifr y Gogarth
Bydd holl elw o werthiant y nwyddau yn mynd yn uniongyrchol i Hosbis Dewi Sant.
LLANDUDNO – Cartref Geifr y Gogarth

Pan ddechreuodd y cyfnod clo cyntaf, nol ym mis Mawrth 2020, derbyniodd ‘Geifr y Gogarth’ sylw ledled y byd, wrth iddynt grwydro lawr o’r Gogarth i fwynhau strydoedd gwag tref Llandudno.
Daeth enwogrwydd y geifr ar amser perffaith i’r Hosbis. Mewn ymdrech i adfer yr amcangyfrif o £1,000,000 o golledion, yn sgil effaith y pandemic, fe lansiwyd amrywiaeth o gynnyrch ‘Geifr y Gogarth’. Mae gwerthiant y nwyddau yn parhau i gyfrannu yn fawr tuag at sicrhau goroesiad yr Hosbis.
Mae’r Geifr bellach yn fascots i’r Hosbis, ac yn ymweld a’r Hosbis yn ddyddiol.
Galeri Digwyddiadau







