Mae Hosbis Dewi Sant yn darparu gofal lliniarol arbenigol i oedolion yng Ngogledd Orllewin Cymru sydd gydag afiechydon sy’n byrhau bywyd, gan gynnwys rhoi cymorth i’w teulu a gofalwyr.
Mae ein holl wasanaethau hosbis yn rhad ac am ddim.
SYSTEM ATGYFEIRIO
Mae Hosbis Dewi Sant yn cydweithio’n agos gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Gogledd Cymru.
Mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio i Hosbis Dewi Sant gan eu Meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, gan drafod eu hanghenion a chwblhau ffurflen atgyfeirio.
Lawrlwythwch ffurflen atgyfeirio yma: Ffurflen Atgyfeirio
I gael rhagor o wybodaeth am feini prawf derbyniad i’r Hosbis, neu i ddysgu mwy am sut gall Hosbis Dewi Sant helpu, ffoniwch (01492) 879058.