Gall Hosbis Dewi Sant gynnig cymorth profedigaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd, mae’n bwysig fod pobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnhyn nhw ar amser ac mewn ffordd sy’n teimlo’n iawn iddyn nhw.
CEFNOGAETH MEWN PROFEDIGAETH
Gall brofedigaeth fod yn daith anodd ac unig. Weithiau gall siarad â theulu neu ffrindiau fod yn anodd gan fod pobl yn aml yn galaru mewn gwahanol ffyrdd.
Gall rai hefyd gael ofn o ypsetio aelodau eraill o’r teulu. Gall siarad a rhannu teimladau gyda gwrandawr profiadol, neu gyda galarwyr eraill sydd wedi cael profiadau tebyg fod yn ddefnyddiol. Gall Hosbis Dewi Sant gynnig cymorth profedigaeth mewn amryw o ffyrdd, mae’n bwysig fod pobl yn gallu cael y cymorth y maent eu hangen ar amser ac mewn ffordd sy’n teimlo’n iawn iddyn nhw.
YMDOPI Â GALAR
Mae galar yn ymateb normal i unrhyw golled fawr yn ein bywydau. Pan mae rhywun yn marw, bydd yna lawer o bethau ymarferol sydd angen sylw. Gall hyn olygu eich bod yn cychwyn galaru unwaith mae’r tasgau hyn wedi cael eu cwblhau ac mae’r bobl o’ch cwmpas yn dechrau dychwelyd at eu bywydau arferol.
Gall fod yn anodd i ni dderbyn marwolaeth anwylyd, ac efallai y bydd ein emosiynau yn ein drysu ac yn dod yn drech na ni. Rhan o’r broses alaru yw ceisio gwneud synnwyr o rywbeth sy’n ymddangos yn ddisynnwyr.
Rydym oll yn galaru yn ein ffordd ein hunain, a gall gymryd sawl ffurf. Er enghraifft, gall alar ein synnu, ac efallai y cawn ein llethu gan emosiwn. Efallai y teimlwn ddicter hefyd, neu mewn gofid dros bethau y gallon ni fod wedi eu gwneud yn wahanol. Efallai bydd teimladau o iselder, llai o awydd bwyd, blinder heb allu cysgu, ac anallu i ganolbwyntio. Efallai bydd tasgau neu broblemau bach yn ymddangos yn anorchfygol ac yn achosi i ni i deimlo’n llawn panig. Efallai y byddwn hefyd yn meddwl ein bod yn clywed neu’n gweld un annwyl, er ein bod yn gwybod eu bod wedi marw. Efallai y teimlwn yn ddideimlad, heb allu crio, neu efallai y profwn synnwyr o ryddhad. Mae’r rhain i gyd yn ymatebiadau arferol i golled anwylyn.
Os ydych wedi bod yn gofalu am y person sydd wedi marw, efallai y byddwch hefyd yn teimlo colled eich rôl ofalu. Efallai y teimlwch yn amddifad ac yn unig oherwydd fod y berthynas a ddatblygoch gyda gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi dod i ben. Efallai eich bod wedi colli cysylltiad gyda ffrindiau tra’n gofalu am eich anwylyn, a gall drio cyfarfod pobl newydd neu ail-sefydlu hen gyfeillgarwch ymddangos yn ddychrynllyd ac yn flinedig.
Peth a all helpu
- Cofiwch nad oes ffordd gywir nac anghywir i alaru. Mae pawb yn wahanol.
- Ceisiwch beidio â theimlo dan bwysau gan ddisgwyliadau eraill.
- Gwnewch yr hyn sy’n teimlo’n iawn ac yn gyfforddus i chi.
- Caniatewch eich hun i chwerthin, i grio, neu i deimlo’n flin – mae rhywun rydych yn ei garu wedi marw ac mae hynny’n boenus.
- Efallai y byddwch hefyd yn ddideimlad ac yn methu crio.
- Cymerwch ofal o’ch hun a talwch sylw i’ch iechyd.
- Ceisiwch dderbyn help gan eraill. Gall hyn eich gysuro chi a’u cysuro nhw.
- Gsll siarad am y person sydd wedi marw, ac am eich profiadau, eich helpu chi i ddechrau gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd i chi.
- Efallai y byddwch darganfod bod pobl yn lletchwith o’ch cwmpas. Efallai eu bod yn awyddus i roi cymorth, ond fod ganddynt ofn dweud y peth anghywir. Os ydych yn teimlo y medrwch, rhowch wybod iddynt beth yw’r ffordd orau y gallant eich helpu.
- Peidiwch ac ofni gofyn am gymorth naill ai gan ein gwasanaeth profedigaeth, neu gan eich meddyg teulu, neu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Gydag amser, bydd atgofion yn dod yn llai poenus, a byddwch yn gallu eu cofio heb deimlo gofid. Mae’n debygol mai’r bobl sydd agosaf i chi fydd yn gallu helpu fwyaf – gall ffrindiau a pherthnasau rannu atgofion gyda chi, a all fod yn gysur. Weithiau, hefyd, gall fod yn anodd siarad â theulu neu ffrindiau.
Mae gan Hosbis Dewi Sant wasanaeth profedigaeth ar gyfer y perthnasau agosaf. Byddwn yn cysylltu â chi tua chwe wythnos ar ôl y digwyddiad, i gynnig ein gwasanaethau.
CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL
Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau profedigaeth yn Hosbis Dewi Sant, os gwelwch yn dda ffoniwch 01492 879058.
Sefydliadau Lleol;
Canolfan Gynghori
(ar gyfer cyngor ymarferol, ariannol a.y.y.b)
Ardal Conwy,Yr Islawr, 7 South Parade, Llandudno LL30 2LN
Rhif Ffôn: 0844 477 2020
Ardal Gwynedd ac Ynys Môn,The Old Smithy, Sackville Road, Bangor LL57 1LE
Rhif Ffôn: 0844 477 2020
Profedigaeth CRUSE
Rhif ffôn: 0844 561 7856
www.crusenorthwalesarea.btck.co.uk
E-bost: northwales@cruse.org.uk
Gwynebu Profedigaeth
Maent yn rhoi cyngor ac arweiniad i deuluoedd ynglŷn â threfnu’r materion terfynol, yr angladd ac anrhydeddu cof eich anwylyd. Mae’n cynnwys angladdau Iddewig, Mwslimaidd a Bwdhaidd.
Samariaid Gogledd Orllewin Cymru
5A Llys Onnen, Parc Menai, Bangor LL57 4DF
Ffôn: 01248 674985 Rhif Cenedlaethol: 08457 909090
SSAFA (Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a Theuluoedd)
19 Queen Elizabeth Street LLundain SE1 2LP
Cyswllt lleol: Rhif Ffôn: 01480 399 339 / 01223 313 757
www.ssafa.org.uk neu info@ssafa.org.uk
Sefydliadau Cenedlaethol;
Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain
1 Gower Street, Llundain WC1E 6HD
Rhif Ffôn: 020 7324 3060
Cymdeithas Genedlaethol y Trefnyddion Angladdau (NAFD)
618 Warwick Road, Solihull, West Midlands, B91 1AA
Rhif Ffôn: 0121 711 1343
E-bost: info@nafd.org.uk
Y Ganolfan Marwolaeth Naturiol
In The Hill House, Watley Lane, Twyford,
Winchester, SO21 1QX
Rhif Ffôn: 01962 712 690
Cymdeithas Trefnyddion Angladdau Cynghreiriol ac Annibynnol (SAIF)
3 Bullfields, Sawbridgeworth, Hertfordshire, CM21 9DB
Rhif ffôn: 0845 230 6777
Sefydliad WAY (Gweddw Ac Ifanc)
Mae’n cynnig cefnogaeth i weddwon a gwŷr gweddw hyd at 50 oed. Maent yn darparu rhwydweithiau cymorth a rhwydweithiau cymdeithasol i helpu ailadeiladu bywydau.
Suite 35, St Loyes House, 20 St Loyes Street, Bedford,
MK40 1ZL Rhif Ffôn: 0300 012 4929
CYMORTH I BLANT;
Profedigaeth Plant y DU
Ar gyfer gwasanaethau cymorth profedigaeth plant a phobl ifanc yn eich ardal.
Rhif Ffôn: 01494 568900
Rhwydwaith Profedigaeth Plentyndod
Ar gyfer gwasanaethau cymorth profedigaeth plant a phobl ifanc yn eich ardal. Rhif Ffôn: 020 7843 6309
www.childhoodbereavementnetwork.org.uk
Y Linell Gymorth Marwolaeth Plentyn
Ar gyfer unrhyw un a effeithiwyd gan farwolaeth plentyn
Rhif Ffôn: 0800 282986
Ffrindiau Tosturiol
Rhieni profedigaethus yn cynnig cyfeillgarwch a dealltwriaeth i rhieni eraill profedigaethus.
Rhif Ffôn: 0845 123 2304
Prosiect Cyfarfyddiad Galar
i blant profedigaethus a’u teuluoedd
Rhif Ffôn: 020 8371 8455
Partneriaeth i Blant
Iechyd meddwl da i blant, gan helpu’ch plentyn i ymdopi â galar.
Rhif ffôn: 0208 974 6004
www.partnershipforchildren.org.uk
SIBS
Ar gyfer y rhai sy’n frodyr ac yn chwiorydd i blant ac oedolion anabl, gydag unrhyw anabledd, salwch hir dymor neu afiechyd sy’n byrhau bywyd.
Rhif Ffôn: 01535 645453
Winston’s Wish
Mae Winston’s Wish yn helpu plant a phobl ifanc profedigaethus ailadeiladu eu bywydau ar ôl marwolaeth yn y teulu. Maent hefyd yn cynnig cymorth ac arweiniad i deuluoedd, gweithwyr proffesiynol ac i unrhyw un sy’n pryderu am blentyn sy’n galaru.
Ymholiadau Cyffredinol:
Rhif Ffôn: 01242 515157 Llinell Gymorth: 08452 03 04 05