Ar ddydd Gwener 27ain Awst, fe wnaeth Adrian Owen, Chris Curry a Simon Neville gwblhau 50 twll o golff mewn deuddeg awr i ddathlu eu Penblwyddi yn 50 gan godi arian y mae’i fawr angen i’r elusen gofal lliniarol leol, Hosbis Dewi Sant.
Y Ti 1af yng Nghlwb Golff Gogledd Cymru ein Twll 1af
Cychwynnodd Adrian Owen, Codwr Arian Cymuned Conwy Hosbis Dewi Sant, ynghyd â’i ffrindiau agos Chris a Simon yng Nghlwb Golff Gogledd Cymru am tua 8 y bore, cyn anelu am Faes Golff Y Gogarth, Maesdu, Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn, cyn dychwelyd i Landrillo-yn-Rhos i chwarae’r 18fed twll fel eu 50ed twll ac un olaf y dydd.
Roedd yr her yma’n un hir-ddisgwyliedig, gan ei bod wedi’i gohirio oherwydd y pandemig, ac anaf a gafodd Adrian y llynedd.
Cododd y tri dros £2,043 i’r Hosbis. Bydd yr holl arian a godwyd yn cyfrannu’n anferth tuag at Hosbis Dewi Sant yn parhau i ddarparu gofal diwedd oes yn rhad ac am ddim ar gyfer pobl Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Diolchodd Adrian i’w holl gefnogwyr am eu rhoddion caredig
‘’Ar ran Chris, Simon a minnau, diolch i bawb a roddodd at ein her ac a ymwelodd â ni ar y diwrnod ar un o’r meysydd. Diolch am hynny fe’n bendithiwyd ni â thywydd ardderchog ac roedd pob un o’r pum maes mewn cyflwr gwych ac yn groesawgar iawn ac yn rhoi gwahanol heriau inni. Roeddem yn falch ein bod wedi cyflawni o leiaf un byrdi yr un ar y diwrnod!
Cawsom ein rhyfeddu gan haelioni pawb a fu’n cymryd rhan a’n bod wedi gallu codi dros £2000 i Hosbis Dewi Sant. Diolch ichi!’’
Mae digwyddiadau codi arian yn y gymuned yn cyflenwi 90% o’r gost o 5 miliwn i redeg Hosbis Dewi Sant bob blwyddyn, gyda dim ond 9% o’r ffigur hwnnw’n dod gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd Lleol. Heb gefnogaeth y gymuned, ni fyddai’r Hosbis yn goroesi.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am godi arian i Hosbis Dewi Sant, cysylltwch â adrian.owen@stdavidshospice.org.uk neu ffoniwch 01492 873674
Y 18fed Grîn yn Llandrillo-yn-Rhos – Twll Rhif 50!