Breichledi Gobaith Stephen yn codi cannoedd at ei Hosbis leol i oedolion
Mae doniau creadigol a brwdfrydedd cefnogwr Hosbis leol wedi arwain at rodd hael o fwy na £500.
.
(Stephen Batchelor gyda’i freichledi)
Trwy gydol misoedd Rhagfyr ac Ionawr, bu Rheolwr Dyletswydd KFC Cyffordd Llandudno Stephen Batchelor yn gwerthu Breichledi Gobaith, yr oedd ef wedi’u gwneud yn gywrain trwy glymu ceinciau lliwgar o gortyn.
Roedd y breichledi amryliw, yn costio £3 yr un, wedi’u harddangos i gwsmeriaid eu prynu yn y bwyty bwyd cyflym gyda phoster yn dweud “Mae pawb ag angen ychydig o liw a gobaith yn eu bywyd”, neges deimladwy iawn yn y dyddiau ariannol caled y mae’r elusen diwedd oes yn mynd drwyddynt ar hyn o bryd oherwydd Covid 19.
( Breichledi yn KFC)
Cafodd yr holl enillion o’r breichledi, a oedd yn dod yn £530, eu rhoddi i Hosbis Dewi Sant yn ddiweddar.
Wrth drosglwyddo’r rhodd, meddai Stephen:
“Fe wnaeth fy nheulu a ffrindiau a minnau ddarparu’r holl glasbiau a chortyn ar gyfer y breichledi ein hunain.
“Roeddwn yn anelu at godi dros £500 at Hosbis Dewi Sant ac rwyf yn edrych ymlaen at gefnogi’r Hosbis anhygoel eto yn y dyfodol.”
Ar hyd y pandemig, mae Hosbis Dewi Sant wedi parhau i ddarparu ei gofal hanfodol 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Diolch i gefnogaeth y gymuned leol, megis gweithgaredd codi arian Stephen, mae’r elusen yn gallu darparu gofal a chefnogaeth diwedd oes arbenigol yn rhad ac am ddim i bobl leol ar adeg anodd iawn yn eu bywydau.
Meddai James Wilde, Codwr Arian Ardal Conwy:
“Diolch i Stephen, ei ffrindiau a’i deulu am eu hamser a’r ymdrech y maen nhw wedi’i roi i greu’r Breichledi Gobaith.
“Bydd yr arian a godwyd gan y Breichledi Gobaith, yn ogystal â’r gefnogaeth gyson gan KFC Cyffordd Llandudno trwy ganiau casglu, yn gymorth gwirioneddol i gleifion ac i’w teuluoedd yma yn Hosbis Dewi Sant.”