Cofiwch eich anwyliaid y Nadolig hwn trwy gyflwyno golau ar Goeden Oleuadau Hosbis Dewi Sant a Rotari Llandrillo-yn-Rhos.
Gyda’r Nadolig yn prysur agosáu, yn Hosbis Dewi Sant rydym yn deall ei fod yn gallu bod yn amser llawen ac yn amser emosiynol hefyd wrth inni gofio a meddwl am y rheini nad ydyn nhw efo ni mwyach gwaetha’r modd.
Am rodd o’ch dewis i’r Hosbis, fe’ch gwahoddir i gyflwyno golau ar y Goeden Oleuadau. Yn ei thrydedd flwyddyn ar hugain yn awr, mae wedi dod yn rhan arbennig o’r Nadolig gan roi’r cyfle i lawer yn ein cymunedau lleol ddathlu neu goffáu bywydau anwyliaid neu ddim ond dathlu achlysur arbennig neu ddigwyddiad ystyrlon arall yr un pryd â chefnogi achos teilwng iawn.
Bydd costau rhedeg yr Hosbis eleni dros £5 miliwn, dim ond 9% o hynny sy’n dod gan y Bwrdd Iechyd Lleol. Mae hyn yn gadael £4.5 miliwn i’w godi bob blwyddyn trwy ddulliau gwirfoddol megis y Goeden Oleuadau. Bu’r ymateb i’r apêl flynyddol yma dros y blynyddoedd yn syfrdanol. Ers iddi gychwyn yn 1999, mae dros £331,000 wedi’i roi i’r hosbis oedolion gyda £42,000 wedi’i godi yn 2020 yn unig.
Gwnaeth Cliff Large, Llywydd Clwb Rotari Llandrillo-yn-Rhos y sylw:
“Rydym yn byw mewn cyfnod ansicr trwy’r pandemig yma, ond rydym wedi penderfynu eleni y byddwn yn cynnal ein seremoni arferol ar Bromenâd Cayley. Os digwydd y cawn ein gorfodi i wneud unrhyw newid, bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y gallwn. Ni fyddwn yn gadael i Covid19 ein hatal rhag cefnogi Hosbis Dewi Sant. Mae’r cyfle i gofio ein hanwyliaid mor eithriadol bwysig ac mae cyflwyno golau yn ffordd hyfryd o wneud hyn yn ystod cyfnod y Nadolig gan goffáu’r rheini nad ydyn nhw gyda ni mwyach.
“Bydd pob ceiniog a roddir yn mynd i’r Hosbis gan gefnogi’r gwaith hanfodol bwysig y maen nhw’n ei wneud i’r holl gymunedau ar hyd a lled Gogledd-Orllewin Cymru. Maen nhw wedi methu cynnal llawer o weithgareddau codi arian oherwydd cymaint o gyfyngiadau ac mae arnyn nhw angen ein cefnogaeth gymaint ag erioed. Er gwaethaf y sefyllfa yma, byddwn yn sicr yn gweld Coeden Oleuadau’r Rotari yn disgleirio’n falch ar Bromenâd Cayley unwaith eto eleni gydag ystyr arbennig i bawb.”
Y Nadolig diwethaf addurnwyd y goeden gyda goleuadau LED newydd ac yn 2021 byddant yn disgleirio’n fwy llachar nag erioed. Mae hyn wedi’i wneud yn bosibl gyda nawdd caredig iawn Fferm Wynt Ar y Môr Gwastadeddau’r Rhyl yn ogystal â chefnogaeth Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy, Dŵr Cymru a Chyngor Tref Bae Colwyn.
Bydd y goleuadau’n cael eu goleuo yn ystod ein seremoni ‘switsio ymlaen’ am 4.30 y prynhawn ar ddydd Sul, 28ain Tachwedd gan aros wedi’u goleuo trwy gydol mis Rhagfyr.
Am bob cyflwyniad, bydd cerdyn Coeden Oleuadau’n cael ei anfon atoch trwy’r post a bydd enwau’ch anwyliaid yn cael eu cofnodi yn ein ‘Llyfr Goleuadau’, a fydd ar gael i’w weld ar-lein trwy gydol 2022.
I gyflwyno golau ar y Goeden Oleuadau eleni ewch i: https://stdavidshospice.org.uk/donations/tree-of-lights e-bostiwch Rhian Jacobs neu ffoniwch Dîm Codi Arian yr Hosbis ar 01492 873664.