
Ymgasglodd nifer o gwiswyr o bob cwr o Ogledd Cymru o amgylch eu gliniaduron y mis diwethaf i brofi’u hunain fel rhan o Gwis Corfforaethol Rhithiol Clwb Busnes Gogledd Cymru (NWBC) er budd Hosbis Dewi Sant.
Mae’r cwis, oedd yn cael ei arwain unwaith eto gan gyn-seren rygbi rhyngwladol Cymru, Rupert Moon, yn ei chweched flwyddyn bellach. Yn digwydd yn Venue Cymru fel arfer, gwelodd y cwis yr ymrysonwyr yn cymryd rhan o gysur eu cartref eu hunain.
Roedd Barclays yn methu cynhyrchu’r Cwis eleni. Ond, yn garedig iawn fe wnaethant gyrchu £6540 o arian cyfatebol, ac roedd yr elusen yn gwerthfawrogi hynny’n fawr iawn.
Unwaith eto bu i Sophie Morris, Rheolwr-Gyfarwyddwr Worldspan, Aelod o Bwyllgor Clwb Busnes Gogledd Cymru, gynhyrchu cwis rhithiol gwych gan ddefnyddio gwasanaeth ei thîm yn Worldspan i sicrhau bod ochr dechnegol pethau’n drefnus.
Meddai Jeremy Salisbury, Cadeirydd NWBC:
“Mae’n hyfrydwch gan Glwb Busnes Gogledd Cymru allu cefnogi gwaith ardderchog Hosbis Dewi Sant unwaith eto ac i gynnwys ein haelodau mewn digwyddiad mor ddifyr sy’n dal ati i roi blwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Byddem yn hoffi diolch i’n holl noddwyr ac yn arbennig i Fanc Barclays am eu cefnogaeth wrth sicrhau swm mor anhygoel o arian i’r Hosbis.”
Roedd y cwis yn llwyddiant ysgubol gan godi £13,080 at ofal lliniarol yng Ngogledd-Orllewin Cymru. Mae codwyr arian yn y gymuned yn cyflenwi 90% o’r gost flynyddol o £5 miliwn i redeg Hosbis Dewi Sant, gyda dim ond 9% o’r ffigur hwnnw’n dod gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd Lleol.
Meddai Tim Virgo, Cyfarwyddwr Bancio Corfforaethol Barclays:-
“Rydym wrth ein bodd â’r swm a godwyd i Hosbis Dewi Sant a byddem yn hoffi diolch i bawb a’n cefnogodd ni i wneud i hyn ddigwydd. Ochr yn ochr â’r Uchelgais Twf ar y Cyd, mae gan Barclays Raglen Cymuned Cydweithwyr ardderchog sy’n annog gweithwyr i gymryd rhan yn yr achosion y mae o bwys gennym amdanynt. Mae a wnelo â rhoi ein sgiliau, ein hamser a’n hegni yn ôl i gefnogi ein cymunedau lleol, yn arbennig yn y dyddiau anodd hyn – felly rydym wrth ein bodd o fod wedi codi’r arian yma.”
Meddai James Wilde, Codwr Arian Ardal Conwy Hosbis Dewi San:
“Rydym mor ddiolchgar i bawb am gefnogi’r Cwis Rhithiol. Cymerais ran yn y cwis fy hun a gwir fwynhau pa mor amrywiol oedd y rowndiau a faint o hwyl oedd y noson.
“Llawer o ddiolch i bawb yng Nghlwb Busnes Gogledd Cymru am eu cefnogaeth gyson ac i Barclays am eu rhodd hael.
“Hoffwn ddiolch hefyd i Rupert Moon am ei sgiliau arwain anhygoel i gadw’r cwis yn rhedeg yn esmwyth, i Worldspan am wneud gwaith ardderchog gydag ochr dechnegol pethau, i noddwyr y cwis ac i bawb a gymerodd ran ac a brynodd docynnau raffl.”
Llongyfarchiadau i Colin Wickens, Rheolwr Buddsoddiadau Cleientiaid Preifat Dragon Investment Managers, a enillodd y cwis gyda 69 o bwyntiau.
Byddai Hosbis Dewi Sant yn hoffi diolch hefyd i noddwyr y cwis ac i’r rheini a roddodd wobrau raffl. Maen nhw’n cynnwys:
Martrust (Riverside Business Park),
Hanover Business Centre,