Cydlynydd Marchnata Digidol
Lleoliad : Hosbis Dewi Sant, Llandudno, Conwy, LL30 2EN (caiff gweithio hyblyg ei ystyried)
Oriau : 35 awr yr wythnos
Cyflog : Hyd at £24,000
Yn atebol i: Pennaeth Marchnata a Cyfathrebu
Contract: Parhaol, Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am – 5pm (gydag egwyl o awr i ginio), gwaith penwythnos achlysurol.
Pwy ydym ni:
Elusen leol yw Hosbis Dewi Sant sy’n darparu gofal hosbis ar gyfer cleifion mewn oed ar draws Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn yng Ngogledd-Orllewin Cymru. Mae’r Hosbis yn darparu Gofal Cleifion Mewnol, Therapi Dydd a Hosbis yn y Cartref ar draws tri safle clinigol yn Llandudno, Bangor a Chaergybi. Yn 2022 bydd yn costio tua £6 miliwn i ariannu’r gofal y mae Hosbis Dewi Sant yn ei ddarparu.
Mae rhwydwaith yr Hosbis o 22 o siopau ynghyd â’r timau Manwerthu, Codi Arian a Loteri i gyd yn cyfrannu at wneud yn siŵr y gellir cwrdd â’r targed cyffredinol gyda chymorth y Tîm Marchnata a thros 500 o wirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser, gan arbed tua £350,000 y flwyddyn i’r Hosbis.
Mae a wnelo’r Hosbis yn gyfan gwbl â phobl, a gonestrwydd a gofal yw’r gwerthoedd craidd wrth galon ein diwylliant.
Beth fyddwch yn ei wneud:
Bydd y Cydlynydd Marchnata Digidol yn lanlwytho cynnwys dengar, dwyieithog i’n holl sianelau digidol, yn cynnwys y wefan, cyfryngau cymdeithasol a rhai platfformau allanol gyda’r bwriad o gael cymunedau lleol i ymgysylltu â’r Hosbis a chael rhagor o gymorth.
Rydym yn chwilio am rywun a fydd yn:
- Ymgysylltu â’n gwerthoedd
- Gweithio orau fel rhan o dîm
- Greadigol a dadansoddol
- Croesawu newid, ein gweledigaeth a’n nodau
I wneud y swydd byddwch ag angen:
- Profiad o weithio mewn swydd farchnata debyg neu mewn amgylchedd tebyg
- Dealltwriaeth o blatfformau digidol a sut y maen nhw’n datblygu, yn cynnwys tueddiadau newydd
- Sgiliau TG cryf a phrofiad o ddefnyddio swît Microsoft 365 / Office
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda’r gallu i ysgrifennu cynnwys yn y Gymraeg ac yn Saesneg
- Sgiliau creadigol yn cynnwys fideograffeg a golygu
Yr hyn fyddwch yn ei gael yn gyfnewid:
- Boddhad a gwerth swydd wrth wneud gwahaniaeth i’r gymuned leol
- 23 diwrnod o wyliau, yn ogystal â gwyliau banc.
- Ciniawau cantîn ffres cymorthdaledig
- Parcio ar y safle
- Disgowntiau gan bartneriaid yr elusen megis 02, Specsavers a’r ‘Cerdyn Golau Glas’
Dyddiad Cau: 19 Mai 2022, 9am
I drefnu sgwrs anffurfiol cysylltwch â Marie Lidgett yn yr Adran Farchnata: marie.lidgett@stdavidshospice.org.uk
2022-004