
Mae Hosbis Dewi Sant yn dibynnu ar dîm o dros 450 o wirfoddolwyr ymroddedig, sy’n gweithio ar draws holl feysydd yr elusen. Mae eu cefnogaeth yn cael effaith enfawr ar lefel y gwasanaeth y gallwn ddarparu ar gyfer ein cleifion a’u teuluoedd.
Mae ein gwirfoddolwyr yn ymwneud â gwaith cynnal o fewn yr Hosbis, o helpu yn ein siopau elusen, i godi arian allan yn y gymuned. Mae’r sgiliau y mae ein gwirfoddolwyr yn eu cynnig yn amrywiol ac yn amhrisiadwy.
Heb ein gwirfoddolwyr, ni fyddai’r gallu gan Hosbis Dewi Sant i gyflawni ein gwaith hanfodol yn rhad ac am ddim i gymunedau Gogledd-Orllewin Cymru. Mae ein gwirfoddolwyr caredig a ffyddlon yn drysor, gan gyfrannu eu profiad, amser ac egni i helpu eraill.

Swyddi Gwirfoddoli
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wirfoddoli gyda Hosbis Dewi Sant neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am rôl, cysylltwch â ni!
Cysylltwch â’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr Lou Barber ar
enquiries@stdavidshospice.org.uk
neu ffoniwch
01492 879058.




COFRESTRWCH I WIRFODDOLI



Hanes Gwirfoddolwyr
Julie Wilde - Gwirfoddolwr Hosbis

“A ydych chi’n ystyried gwirfoddoli? – Beth ydych yn aros amdano!”
Mae Julie Wilde, 46 oed o Gaergybi yn dweud wrthym am ei phrofiad fel gwirfoddolwr i’r Hosbis ac yn annog pobl eraill i ymuno â’r tîm.
“Nid ydi bod ag anabledd yn golygu na ellwch chi wirfoddoli – mae hynny’n bell ohoni! Cefais fy ngeni gydag anhwylder genetig sy’n golygu fy mod yn rhannol ddall a bod gennyf broblemau clywed a chydbwysedd.
Dechreuais wirfoddoli fel cynorthwyydd yn Siop Y Fali ac yna es i ymlaen i ymuno â Thîm Codi Arian Ynys Môn yn helpu i redeg stondinau yn y Ffair Nadolig a’r Ffair Haf, yn gwerthu tocynnau raffl mewn digwyddiadau min nos ac yn helpu gyda chasgliadau bwcedi.
Gwneud rhywbeth cadarnhaol gyda’ch amser ydi gwirfoddoli, mae o wedi rhoi cymaint o hyder imi ac wedi rhoi hwb gwirioneddol i fy hunan-barch. Mae ffrindiau’n dweud wrthyf fod gennyf ‘fy “mojo” yn ôl’. Mae wedi rhoi imi’r ‘hwb i fynd amdani’ yr oeddwn ei angen! Rwyf wrth fy modd yn cyfarfod ac yn helpu pobl ac rwyf yn wirioneddol edrych ymlaen at pan fydd digwyddiadau codi arian yn y gymuned yn ailddechrau eto. Rwyf hefyd am ymuno â thîm siop yr Hosbis fel cynorthwyydd yng Nghaergybi pan fydd yn agor.
Rwyf yn ei chyfrif yn fendith a’m bod yn lwcus yn gallu gwirfoddoli gyda thîm mor hyfryd. Mae pawb yn hwyliog ac rydym yn chwerthin llawer wrth wneud rhywbeth gwych!
Os ydych yn ystyried gwirfoddoli – gwnewch o! Peidiwch â gadael i heriau bywyd eich rhwystro, mae gwirfoddoli yn gallu arwain at gyfeillgarwch newydd a’ch helpu i ddatblygu’ch sgiliau cymdeithasol a mwynhau bywyd. Beth fwy ellwch chi ofyn amdano?”
YMUNWCH Â’N CYMUNED GWIRFODDOLWYR
