Roedd Rhiannon eisoes yn gyfarwydd â Hosbis Dewi Sant, gan fod ffrind i’r teulu wedi cael gofal yma. Pan ddarganfu ein bod yn cynnig lleoliadau i fyfyrwyr, roedd hi’n awyddus iawn i ymuno â’n tîm.

Beth yw Therapi Celf?

Mae Rhiannon yn esbonio bod therapi celf yn fath o seicotherapi sy’n defnyddio deunyddiau celf i helpu pobl i brosesu eu meddyliau, eu teimladau a’u profiadau.
Mae’r mynegiant creadigol yn gweithredu fel offeryn ar gyfer myfyrio, gan helpu unigolion i wneud synnwyr o’r hyn maen nhw’n mynd drwyddo.

“Rydw i wedi gallu cefnogi cleifion ar eu taith gan ddefnyddio cyfuniad o gefnogaeth emosiynol a chreu celfyddyd greadigol,” meddai. “Mae hyn wedi golygu y gall cleifion fynegi eu hunain yn rhydd a dadansoddi eu meddyliau mewn ffordd wahanol.”

Mae’r sesiynau hefyd yn hwyluso cysylltiadau rhwng cleifion, gan eu hannog i siarad am eu cyflyrau gyda’i gilydd. Mae defnyddio thema neu ysgogiad yn helpu i ddechrau sgyrsiau, gan greu lle ar gyfer cefnogaeth emosiynol i’r ddwy ochr.

Profiad Ystyrlon

Wrth fyfyrio ar ei hamser gyda ni, rhannodd Rhiannon fod ei lleoliad wedi bod “mor werthfawr ac ystyrlon.” Dysgodd lawer mewn amgylchedd a oedd yn canolbwyntio ar lesiant ac ansawdd bywyd. “Mae pawb yma’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion y claf,” ychwanega.

Mwynhaodd Rhiannon yn arbennig fod yn rhan o’n tîm amlddisgyblaethol, gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr i roi cymaint o gefnogaeth â phosibl i gleifion. “I rai pobl, maen nhw’n chwilio am le i ymlacio a dad-straenio, tra bod eraill yn gweithio trwy eu meddyliau a’u teimladau,” mae hi’n nodi.

Mae hi’n teimlo bod y sesiynau wedi helpu cleifion i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud synnwyr o bethau. “Mae therapi yn cynnig lle i bobl ddadlwytho, myfyrio ar eu profiadau a’u prosesu,” meddai Rhiannon.

Mae gweithio gyda chleifion ar lefel unigol ym mha bynnag ffordd y maen nhw wedi bod ei hangen neu wedi bod eisiau yn rhywbeth na fyddaf yn ei anghofio.”