Mae Coeden Goleuadau Hosbis Dewi Sant yn gyfle i gofio’r rhai rydyn ni wedi’u caru a’u colli. Ymunwch â ni wrth i ni oleuo’r goeden i ddathlu ein hanwyliaid. Mae croeso i bawb, p’un a oes gennych chi berthynas â Hosbis Dewi Sant ai peidio. Bydd y digwyddiad yn cynnwys darlleniad byr a cherddoriaeth cyn i’r goleuadau gael eu troi ymlaen.
Diolch i Glwb Rotari Rhos-on-Sea am eu cefnogaeth barhaus wrth drefnu’r digwyddiad hwn .